(Pennill Cyntaf - First stanza) Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd, Dros ryddid collasant eu gwaed. (Cytgan - Chorus) Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad. Tra môr yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r hen iaith barhau. (Ail Bennill - Second stanza) Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i mi. (Cytgan - Chorus) (Trydydd Pennill - Third stanza) Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed, Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad. (Cytgan - Chorus) Source: http://en.wikipedia.org/wiki/Hen_Wlad_Fy_Nhadau